Jeremiah 47

Neges am drefi Philistia

1Y neges roddodd yr Arglwydd i Jeremeia am y Philistiaid, cyn i'r Pharo ymosod ar Gasa.

2Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud:

“Edrychwch! Mae'r gelynion yn codi yn y gogledd a fel afon ar fin gorlifo.
Byddan nhw'n dod fel llifogydd i orchuddio'r tir.
Byddan nhw'n dinistrio'r wlad a phopeth ynddi,
y trefi a phawb sy'n byw ynddyn nhw.
Bydd pobl yn gweiddi mewn dychryn,
a phopeth byw yn griddfan mewn poen.
3Bydd sŵn y ceffylau'n carlamu,
y cerbydau'n clecian, a'r olwynion yn rymblan.
Bydd rhieni'n ffoi am eu bywydau
heb feddwl troi'n ôl i geisio achub eu plant
am fod arnynt gymaint o ofn.
4Mae'r diwrnod wedi dod i'r Philistiaid gael eu dinistrio,
a'r cynghreiriaid sydd ar ôl yn Tyrus a Sidon.
Ydw, dw i'r Arglwydd yn mynd i ddinistrio'r Philistiaid,
y bobl ddaeth drosodd o ynys Creta.
47:4 Creta Hebraeg, “Cafftor”, enw arall ar Creta, o ble daeth hynafiaid y Philistiaid – gw. Deuteronomium 2:23; Amos 9:7

5Bydd pobl Gasa yn siafio eu pennau mewn galar,
ac Ashcelon yn cael eu taro'n fud.
Am faint ydych chi sydd ar ôl ar y gwastatir
yn mynd i ddal ati i dorri eich hunain â chyllyll?”
Y bobl:
6“O! gleddyf yr Arglwydd,
am faint wyt ti'n mynd i ddal ati i ladd?
Dos yn ôl i'r wain!
Aros yno, a gorffwys!”
Jeremeia:
7“Ond sut mae'n gallu gorffwys
pan mae'r Arglwydd wedi gorchymyn iddo?
Fe sydd wedi dweud wrtho am ymosod
ar dref Ashcelon a phobl yr arfordir.”
Copyright information for CYM